Arweinydd yr Wrthblaid (DU)

Gwleiddydd sy'n arwain yr Wrthblaid Swyddogol (Gwrthblaid Mwyaf Teyrngar Ei Mawrhydi) yn y Deyrnas Unedig yw Arweinydd Gwrthblaid Mwyaf Teyrngar Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig (a adnabyddir yn gyffredin fel Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin). Mae hefyd Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ar un adeg roedd arweinwyr gwrthblaid yn y ddau Dŷ â statws cyfartal, os nad oedd un yn Brif Weinidog diweddar yn y blaid a ffurfiodd yr Wrthblaid Swyddogol. Ond, ers cychwyn yr 20g, does dim dadl wedi bod mai'r arweinydd yn Nhŷ'r Cyffredin yw'r arweinydd di-gyffelyb.

Fel arfer, Arweinydd yr Wrthblaid yw arweinydd y blaid fwyaf sydd ddim yn llywodraethu, sef y baid ail fwyaf yn Nhŷ'r Cyffredin. Cysidrir hwy yn Brif Weinidog amgen, ac maent yn aelod o'r Cyfrin Gyngor.

Arweinydd yr Wrthblaid presennol yw Keir Starmer, arweinydd y Y Blaid Llafur.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search